Mae beiciwr proffesiynol sy’n aelod  o Tîm Wiggins ar hyn o bryd yn ymarfer yn Calpe, Sbaen ar gyfer Gemau’r Gymanwlad a gweddill y tymor.

Mae Dylan Kerfoot-Robson o Lanelwy ar ei flwyddyn olaf yn feiciwr o dan 23 oed, ac felly mae’n hanfodol ei fod yn perfformio’n dda er mwyn cael symud i’r lefel nesaf ac ennill ei le mewn tim proffessiynol ar lefel y World Tour.

“Mi wnaeth dau aelod o’r tîm symud i dimau sy’n cystadlu ar lefel y World Tour o’n tîm ni blwydddyn diwethaf, felly dw i’n gobeithio eu dilyn nhw,” meddai wrth golwg360.

“Ar hyn o bryd, dw i mewn camp ymarfer am ddeng niwrnod yn dod i nabod aelodau eraill y tîm a’r offer newydd ar gyfer Gemau’r Gymanwlad. Y nod ydi cael llawer o filltiroedd i mewn yn y tywydd braf.

“Rydan wedi bod yn gwneud gwaith oddi ar y beic hefyd,” meddai wedyn. “Syniad un o’r noddwyr newydd Lululemon ydi canolbwyntio ar gorff iachus a meddwl iachus, rydan wedi cael sesiynau ioga – a dw i wedi mwynhau, er fy mod i braidd yn amheus i ddechrau.”

Rasio dramor

“Mi fydd fy ras gyntaf yn Portiwgal, y Classica da Arrabida ar Fawrth 11, wedyn bydd ras cymal pum niwrnod Volta ao Alentejo yn dechrau ar y bedwaredd ar ddeg.

“Bydd y bloc hwn o rasio yn gobeithio wedi fy mharatoi am Gemau’r Gymanwlad ym mis Ebrill. Dw i wir yn meddwl mai rasio yw’r ffordd orau  o baratoi, a dyna pam dw i’n gobeithio llenwi fy nghalendr rasio pryd mae’n bosib.

“Uchelgais Tîm Wiggins wastad ydi datblygu beicwyr ifanc a rhoi’r cyfle iddyn nhw ymddangos yn y rasus gorau ledled Ewrop. Dyna be ydi fy nod i – rasio cymaint ag y medra’ i a chreu argraff i ddenu un o dimau gorau’r byd i fy arwyddo.

“Mae calendar 2018 dal yn gallu newid ar fyr rybudd, ond dw i’n gobeithio y bydda’ i’n rasio pob penwythnos ar ôl Gemau’r Gymanwlad,” meddai Dylan Kerfoot-Robson.

“Does dim wedi’i gadarnhau eto, ond dw i’n gobeithio y ca’ i fy newis ar gyfer ras Paris Roubaix o dan-23… a dw i wastad yn edrych ymlaen at y Pencampwriaeth Cenedlaethol.”