Mae nofiwr a enillodd fedal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014 yn gobeithio mynd gam ymhellach eleni yn Awstralia.

Mae Jack Thomas, 22, ar hyn o bryd yn ymarfer  a gwirfoddoli yng Nghanolfan Nofio Llandudno.

Mae’n cystadlu yn y S14 dull 200m i nofwyr gydag anableddau dysgu. Wedi iddo gipio’r efydd yn Glasgow, fe aeth yn ei flaen i ennill dwy fedal arian ac un efydd ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Eindhoven yn y 100m dull cefn a’r 200m cymysg unigol, yn ogystal ag efydd yn y 200m dull rhydd.

“Fe ddechreuais nofio cyn o’n i’n bedair oed, roeddwn wrth fy modd gyda chwaraeon ond nofio ro’n i’n ei fwynhau fwyaf,” meddai wrth golwg360.

Dechrau cystadlu

“Erbyn pan roeddwn yn naw oed oedd pobol wedi sylweddoli bod gen i dalent, ac mi wnes i ddechrau gystadlu dros Gymru,” meddai wedyn.

“Pan yn dair ar ddeg, fe ges i fy newis ar gyfer Tîm GB ym mhencampwriaethau Ewrop yng ngwlad Pwyl… a’r flwyddyn wedyn i dîm GB yng Ngemau’r Byd yn y Weriniaeth Tsiec.

“Y flwyddyn wedyn, fe gafodd athletwyr gydag anabledd dysgu y cyfle i ail ymuno â’r symudiad Paralympaidd, ac fe ges i fy ngwahodd i fod yn rhan o ‘Raglen Potensial Podiwm Prydain’. Roedd hynny’n golygu fy mod i’n cael fy nghefnogi’n ariannol, ac mi wnes i wella bob blwyddyn.

“Ond, ar ôl llwyddiant 2014, newidiodd bob dim y flwyddyn wedyn,” meddai Jack Thomas, gan gyfeirio at gatalog o ddigwyddiadau sydd wedi ei fwrw’n ol.

“Fe dorrais fy ngarddwrn, ac fe fu’n rhaid i mi dynnu’n ôl o Bencampwriaeth y Byd yn Glasgow. Cefais fy ngollwng o raglen Tîm GB, ac fe adawodd fy hyfforddwr ers chwe blynedd i fynd i hyfforddi i Shanghai…”

Wedi cyrraedd  y gwaelod

“Roeddwn yn teimlo fy mod wedi cyrraedd y gwaelod isaf un… ond ar ôl naw mis, mi wnes feddwl fy mod yn wirion i daflu’r holl flynyddoedd o ymarfer, ac mi benderfynais ail-afael ynddi a dechrau ymarfer eto.

“Rwyf yn ôl yn y pwll yn ymarfer yn galed er mwyn cgyrraedd y nod o gystadlu yng ngemau Paralympaidd Tokyo 2020. Yn y cyfamser, rwy’n falch iawn o gael fy newis i gynrychioli fy ngwlad yn Awstralia ac mae’r ymarfer yn mynd yn dda hyd yma.

“Yn anffodus, rwy’ i heb dderbyn cefnogaeth gan y gronfa Tîm GB, ond mae nofio Cymru wedi fy newis i’r Garfan Elit ac rwyf yn derbyn £3,000 bob chwe mis i helpu gyda chostau ymarfer a chystadlu,” meddai.