Fe fydd mam o Aberteifi yn nofio’r un pellter ag sydd rhwng Lloegr a Ffrainc, er mwyn codi arian at achos da.

Fe fydd Penny Philips, 35 oed, yn nofio 22 milltir er mwyn ei herio’i hun ac i godi ymwybyddiaeth o’r clefyd siwgwr, a hynny er mwyn cefnogi ffrind sy’n dioddef o diabetes math 1.

Mae’n rhan o her nofio y flwyddyn, Swim22, sy’n gallu cael ei chwblhau ar unrhyw adeg rhwng Chwefror 22 a Mai 22.

Ond mae Penny Phillips, sy’n rhedeg busnes tirlunio gyda’i gŵr ac yn fam i blentyn 5 oed, yn bwriadu ei gwblhau mewn wythnos yn unig – er ei bod hi ddim ond wedi dechrau nofio o ddifri y llynedd ar ôl rhoi’r gorau i ysmygu.

“Her a hanner”

“Dw i wir yn mwynhau’r hyfforddi,” meddai, “a dw i’n ychwanegu at y pellter yn raddol bob wythnos.

“Dw i’n fam sy’n gweithio, felly mae’n gallu bod yn anodd cael yr amser i ymarfer, ond yr hyn sy’n fy symbylu yw gwybod fy mod yn cefnogi pobol sydd â diabetes.

“Fe fydd yn her a hanner i gwblhau’r 22 milltir mewn wythnos, ond dw i’n gwybod ei fod o fewn fy nghyrraedd!”