Mark Williams
Mae Mark Williams a Stuart Bingham yn gyfartal ar ôl sesiwn cynta’ rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Awstralia.

Roedd yna sioc i’r Cymro wrth i’ Bingham sgorio 139 yn ffrâm gynta’i gêm gynta’ erioed yn rownd ola’ un o’r prif gystadlaethau.

Aeth wedyn ar y blaen o 3-1 cyn i Mark Williams ennill y tir yn ôl, gan gipio tair ffrâm yn olynol ac arwain am ychydig ar 4-3.

Roedd yna rediadau o 89, 85 ac 84 i Williams sydd hefyd yn gyfrifol am rediad mwya’r bencampwriaeth hyd yn hyn – 142.