Mark Williams (Gwifren PA)
Mae Mark Williams wedi cyrraedd rownd gyn derfynol Pencampwriaeth y Byd ar ôl curo Mark Allen 13-5 yn y Crucible.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cymro gyrraedd y pedwar olaf ers  iddo ennill y gystadleuaeth yn 2003.

Fe enillodd Mark Williams y bencampwriaeth yn 2000 hefyd ond mae wedi cael trafferthion i sicrhau canlyniadau yn Sheffield yn y blynyddoedd ers hynny.Dim ond unwaith yr oedd wedi cyrraedd yr wyth olaf unwaith yn y saith blynedd ddiwethaf.

Roedd y Cymro eisoes 11-5 ar y blaen ar ddechrau’r sesiwn y bore ‘ma ac fe aeth ymlaen i gipio’r ddwy ffrâm oedd eu hangen arno am y fuddugoliaeth.

Fe fydd Williams nawr yn wynebu enillydd y gêm rhwng John Higgins a Ronnie O’Sullivan.