Mae llanc 16 oed o Abertawe wedi ennill medal gyntaf Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad i Ieuenctid  yn y Bahamas.

Mi  orffennodd Lewis Fraser yn drydydd a chipio’r fedal efydd am nofio fel pili-pala am 50 metr.

“Mae’n deimlad gwych ac roeddwn yn teimlo’n dda yn y ras,” meddai.

“Rwy’n hynod o falch a gobeithio mai ond y dechrau yw hyn i’r tîm.”

Hefyd mae Medi Harris, 14, o Borthmadog, wedi torri record Cymru am nofio ar ei chefn am 50 metr –   record sydd wedi sefyll ers 2006. Mae hi hefyd wedi creu record newydd ieuenctid i Gymru am nofio 100 metr mewn 1:02:80.

Mae Jacob Lovell ,17, o Gaerdydd a James Probert,16, o Sir Benfro yn sicr  o fedalau efydd yn y bocsio. Byddan nhw yn bocsio eto yfory am le yn y rownd derfynol. Mae James Story, 16, o Gaerdydd, drwodd i’r wyth olaf yn y gystadleuaeth tenis, ac mae’r  tîm rygbi merched  saith bob ochr yn chwarae gêm am fedal efydd heddiw.