Brett Johns (Llun: Tanabi)
Fe fydd y ddau ymladdwr crefftau ymladd cymysg (MMA), Brett Johns a Jack Marshman yn mynd am eu buddugoliaethau gyntaf eleni yn yr Ultimate Fighting Championship yn Glasgow heno.

Cafodd gornest ddiwethaf Brett Johns o Bontarddulais – yn erbyn Ian Entwistle – ei chanslo ar ôl i’r Sais dynnu’n ôl oherwydd salwch.

Bydd e’n herio’r Americanwr Albert Morales heno ar ôl i’w wrthwynebydd gwreiddiol, Mitch Gagnon o Ganada dynnu’n ôl.

Jack Marshman

Collodd Jack Marshman o Abertyleri yn erbyn Thiago Santos o Frasil yng Nghanada ym mis Chwefror.

Fe fydd y Cymro cyntaf ar brif gerdyn yr UFC wrth iddo fe herio Ryan Janes o Ganada. Fe drechodd y Cymro Magnus Cedenblad yn ei ornest gyntaf ar is-gerdyn yr UFC fis Tachwedd diwethaf.

Roedd disgwyl iddo fe herio’i gydwladwr John Phillips, sydd wedi’i anafu.