Geraint Thomas (Llun: Chris Ham)
Mae Geraint Thomas wedi cadw ei afael ar y crys melyn ar ddiwedd ail gymal y Tour de France yn Liege.

Ar ôl ennill y cymal cyntaf yn erbyn y cloc yn Dusseldorf ddoe, y Cymro Cymraeg o Gaerdydd oedd y Cymro cyntaf erioed i wisgo’r crys melyn.

Ac fe orffennodd y cymal heddiw yng nghanol y pac.

Ond doedd y newyddion i Chris Froome, ei gyd-aelod yn Team Sky, ddim cystal ar ôl iddo yntau ddioddef gwrthdrawiad.

Cafodd Geraint Thomas ei hun yng nghanol yr helynt ond fe lwyddodd i barhau wrth i Chris Froome, Romain Bardet a Richie Porte geisio’n ofer i’w ddal.

Gorffennodd Mark Cavendish yn bedwerydd ar ôl gwibio i’r llinell derfyn.