Myfyrwraig yn dylunio legins Tîm Cymru

Diweddarwyd am  


Legins Tim Cymru, Gemau'r Gymanwlad
Mae myfyrwyr o Brifysgol De Cymru wedi ennill cystadleuaeth i ddylunio rhan o git Tîm Cymru ar gyfer gemau’r Gymanwlad yn Awstralia’r flwyddyn nesaf.

Yn wreiddiol o Maidenhead, mae Megan Bentley ar ei thrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol De Cymru ac wedi ennill cystadleuaeth yr adran ffasiwn drwy gynllunio legins ar gyfer yr athletwyr Cymreig.

Fe fydd ei chynllun yn cael ei gynhyrchu gan gwmni o Benarth, The Power of Greyskull, sy’n arbenigo mewn dillad chwaraeon.

“Cefais fy ysbrydoli gan falchder ac angerdd Cymru, ynghyd â lliwiau a bwrlwm yr Arfordir Aur,” meddai Megan Bentley.

“Rwy bob amser yn tueddu i greu cynlluniau lliwgar, gyda phrintiau cryf ar gyfer dillad chwaraeon gan fod hynny’n gwneud i chi sefyll allan.”

‘Amrywiaeth o dalent’

Mae disgwyl y bydd tua 200 o athletwyr o Gymru yn cystadlu yn Gemau’r Gymanwlad yn 2018 ar Arfordir Aur Awstralia.

“Roedden ni’n ymwybodol o safon uchel gwaith cynllunio myfyrwyr y Brifysgol ac roedden ni’n awyddus i gynnwys cynulleidfa ehangach na chefnogwyr chwaraeon ym mharatoadau Tîm Cymru ar gyfer Gemau 2018,” meddai Cathy Williams ar ran Gemau’r Gymanwlad Cymru.

“Mae’r prosiect yma’n tynnu sylw at yr amrywiaeth o dalent sydd gennym ni yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n hynod falch hefyd bod y legins yn cael eu cynhyrchu gan gwmni Cymreig. ”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd