Collodd y Cymro Liam Williams ei ornest baffio pwysau canolig ysgafn yn erbyn y Sais Liam Smith ym Manceinion neithiwr.

Daeth yr ornest i ben dan gwmwl wrth i dîm hyfforddi’r Cymro ei dynnu’n ôl o’r ornest ar ddechrau’r degfed rownd wrth i waed lifo o’i lygad.

Roedd e un pwynt ar y blaen gan y tri beirniad ar y pryd.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd sut y cafodd yr anaf i’w lygad. Mae awgrym, fodd bynnag, fod Liam Smith wedi defnyddio’i ben i daro’r Cymro.

Er y fuddugoliaeth i’r Sais, doedd e ddim yn gallu ennill coron y WBO ar ôl methu â chyrraedd y pwysau angenrheidiol.

Mae Liam Williams bellach yn cael triniaeth gan arbenigwr croen.

Ar ôl yr ornest, dywedodd yr hyrwyddwr Frank Warren fod yr ansicrwydd ynghylch y canlyniad yn golygu y gallen nhw wynebu gornest arall yn erbyn ei gilydd.