Mo Farah (Llun: PA)
Mae adroddiad wedi dod i’r golwg sy’n cyhuddo hyfforddwr Mo Farah o roi cyffuriau i athletwyr.

Mae honiadau bod Alberto Salazar wedi rhoi cyffuriau presgripsiwn i nifer o’i athletwyr, yn ôl papur newydd y Sunday Times.

Mae’r papur wedi cyhoeddi adroddiad gan asiantaeth wrth-gyffuriau’r USADA, sy’n honni bod Alberto Salazar wedi rhoi cyffuriau i chwech athletwr mewn canolfan yn Portland, Oregon yn groes i reolau’r gamp.

Mae Alberto Salazar wedi mynnu erioed nad yw e wedi gwneud unrhyw beth o’i le drwy gydol ei yrfa.

Cafodd yr honiadau yn ei erbyn eu gwneud am y tro cyntaf ar raglen Panorama ar y BBC yn 2015.

Yn ôl yr honiadau diweddar, derbyniodd athletwyr gyffur L-carnitine, asid amino naturiol sy’n trin afiechydon y galon a’r cyhyrau.

Does dim gwaharddiad ar y cyffur i athletwyr, ond mae terfyn ar faint o’r cyffur all athletwyr ei dderbyn o fewn chwech awr.

Mo Farah

Yn ôl adroddiadau, mae USADA yn dal i ymchwilio i honiadau bod Mo Farah wedi defnyddio’r cyffur, a bod meddygon wedi mynegi pryder am ei iechyd yn y gorffennol.

Mae’r adroddiad yn honni bod Mo Farah wedi defnyddio’r cyffur cyn Marathon Llundain yn 2014.

Dywedodd UK Athletics mewn datganiad bod rheolau WADA (asiantaeth wrth-gyffuriau’r byd) wedi cael eu dilyn wrth ymdrin â Mo Farah.

Mae USADA wedi gwrthod gwneud sylw am yr adroddiad.

O dan hyfforddiant Alberto Salazar, mae Mo Farah wedi ennill pum teitl byd ers 2011, ac fe fydd yn ymddeol o’r trac ar ddiwedd y tymor hwn.

Mae Mo Farah wedi gwrthod gwneud sylw am yr honiadau hefyd.