Mae seiclwr o Gaerfyrddin yn byw breuddwyd ar hyn o bryd yn beicio i dîm un o’i arwyr Syr Bradley Wiggins.

Mae Scott Davies yn beicio i Team Wiggins sef y tîm wnaeth Syr Bradley ei greu er mwyn datblygu beicwyr talentog ifanc.

Ar hyn o bryd mae Scott Davies yn paratoi am y tymor yn Sbaen yn ardal Tarragona ar ôl cyfnod yn Ffrainc.

Bydd tymor rasio’r tîm yn dechrau yng Ngwlad Groeg fis nesaf yn y Tour of Rhodes o Fawrth 10-12 ac wedyn bydd yn cystadlu yn yr Eidal yn y ras Coppi  e Bartali yn ardal Emilia-Romagna sydd yn parhau am bum niwrnod.

Bydd hefyd yn cymryd rhan mewn ras clasur Liege-Bastogne-Liege yng Ngwlad Belg i feicwyr proffesiynol o dan 23 oed ym mis Ebrill cyn cystadlu ym Mhrydain yn y Tour de Yorkshire ddiwedd Ebrill.

‘Gobeithio am gytundeb proffesiynol’

Mae Scott Davies yn cael ei adnabod fel beiciwr dawnus ac mae’n sicr y bydd ei galendr rasio yn ei siwtio: “Mae’n rhaid cofio mai datblygu fel beiciwr ydw i,” meddai wrth Golwg360.

Rydan ni’n gobeithio  y bydda’i mewn cyflwr da o ffitrwydd ac na fydda’i wedi blino gyda’r cynllun hyn. Mi fydda’i hefyd ar fy mlwyddyn olaf o dan 23 ac yn gobeithio na’i ennill cytundeb proffesiynol. Hefyd mae Gemau’r Gymanwlad  blwyddyn nesaf, a buaswn wrth fy modd yn ennill medal  i gael talu pawb yn ôl am eu cefnogaeth.

“Roedd yn wych  i gael ymuno â Team Wiggins, ac rydan ni’n cael rhyddid yn y tîm i ddatblygu, eto’r nod ydy  ennill rasys i sicrhau’r cytundeb proffesiynol.”

Elfen ryngwladol

Mae’r tîm gydag elfen ryngwladol am 2017 ar ôl arwyddo Corentin Ermenault o Ffrainc a  Leonardo Fedrigo o’r Eidal i ychwanegu at y beicwyr  o Brydain ac Iwerddon o’r blynyddoedd blaenorol .

Gyda beicio wedi ffynnu dros  y blynyddoedd diwethaf, roedd beicwyr fel Luke Rowe a Geraint Thomas yn ysbrydoliaeth iddo, “ Roedd beicwyr fel Wiggins a Froome yn arwyr i mi heb sôn am Geraint Thomas –  rwy’n edmygu nhw.

Mae Scott Davies hefyd yn hynod o falch o’r newyddion diweddar fod parc seiclo yn dod i Sir Gaerfyrddin, “Mae’n grêt i’r ardal a rhieni yn cael arbed mynd  i Gasnewydd- a’r nod yw annog mwy i feicio.”