Rasio cylchffordd (Llun: Seiclo Cymru)
Mae corff Seiclo Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad bod cylchffordd feicio newydd sbon ar ei ffordd i Barc Gwledig Pen-bre.

Mae cynlluniau i ddatblygu Sir Gaerfyrddin fel prif ddinas  beicio Cymru wedi newid gêr yn dilyn cymeradwyaeth i greu’r gylchffordd sy’n werth £500,000. Y gobaith yw y gall ddenu beicwyr o bob cwr o wledydd Prydain, a rhoi hwb economaidd i Sir Gaerfyrddin.

“Mae datblygu cyfleusterau yng Nghymru yn flaenoriaeth i ni fel corff oherwydd maen nhw’n rhoi cyfleoedd i bawb cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol,” meddai Anne Adams-King, Prif Weithredwr Seiclo Cymru.

“Mae’r Sir yn ganolbwynt i weithgareddau seiclo gyda nifer o glybiau seiclo fel Bynea CC, Clwb Seiclo Tywi a chlwb Sosban yn tyfu bob blwyddyn.

“Mae Scott Davies sy’n seiclo i Dîm Wiggins a Phencampwr Seiclo Trac Ewrop Manon Lloyd yn hanu o’r Sir a’n sicr y gobaith fydd i gyfleusterau fel Pen-bre ysbrydoli mwy i feicio.”

Adfywio arfordir y sir

Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i’r fenter.

“Ar ôl ei gwblhau bydd yn gallu cynnal chwaraeon cystadleuol, gweithgareddau hamddenol ac amgylchedd ddi-draffig i ymarfer a hyfforddi,” meddai llefarydd. “Bydd y cyfleuster yn safon Seiclo Prydain ac yn ail i gwrs Trac Marsh ger Y Rhyl.