Alex Thomson cyn gadael (Jakez29120 CCA2.0)
Mae Alex Thomson, yr hwyliwr a gafodd ei eni ym Mangor, wedi dod yn ail yn un o rasys hwylio anodda’r byd.
Fe hwyliodd i mewn i harbwr Les Sables d’Olonne yn Ffrainc ychydig cyn wyth y bore yma – lai na 75 niwrnod ar ôl gadael i hwylio o amgylch y byd.
Fe gafodd y morwr 42 oed ei guro gan Lydawr, Armel Le Cleac’h, yn un o’r rasys mwya’ cyffrous ers i ornest y Vendée Globe ddechrau y 1989.
Roedd yna dyrfa fawr wedi casglu i’w groesawu ychydig oriau ar ôl Armel Le Cleac’h a oedd wedi torri’r record ar gyfer y ras o fwy na thri diwrnod.
Le Cleac’h yn cynnig gobaith
Tan y dyddiau ola’, roedd Alex Thomson yn closio at y Llydawr ond fe gafodd drafferthion gyda chyfarpar gwynt are i gwch, Hugo Boss, a hynny’n llesteirio’i ymdrech.
Ond roedd yn gorffen fwy na 550 milltir fôr o flaen y trydydd ac, onibai am Armel Le Cleac’h, fe fyddai yntau wedi torri’r record.
Wrth lanio, fe ddywedodd ei fod yn falch o wneud yn well na’r tro diwetha’, pan ddaeth yn drydydd.
Ac mae cysur i’r Cymro hefyd gan fod Armel Le Cleac’h, sy’n dod o Saint Pol-de-Leon yn Llydaw, wedi dod yn ail ddwywaith o’r blaen.
Mae’r ras yn cael ei chynnal bob pedair blynedd.