Chris Coleman (Llun: PA)
Ar y diwrnod y daeth y cyhoeddiad fod rheolwr tîm pêl-droed, Chris Coleman yn derbyn yr OBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines, cafodd ei ddatgelu hefyd fel rhedwr cudd Ras Nos Galan yn Aberpennar heno.

Cafodd ei fam-gu ei geni yn y dref, ac fe ddywedodd ei fod e wrth ei fodd o gael cymryd rhan yn y ras.

Mae’r ras yn cael ei chynnal yn flynyddol i ddathlu chwedloniaeth Guto Nyth Brân, un a redodd, yn ôl y chwedl, o Aberpennar i Bontypridd ac yn ôl cyn i’w fam allu berwi’r tegell.

Dywedodd Chris Coleman: “Mae’n anrhydedd enfawr i fi fod yn rhan o Rasys Ffordd Nos Galan, sy’n ddigwyddiad enwog ledled y byd ac sydd â hanes mor ryfeddol.

“Dw i’n arbennig o falch o gael bod yn Aberpennar, sef tref enedigol fy mam-gu cyn iddi symud i Abertawe ac felly dw i’n ymwybodol iawn o Rasys Ffordd Nos Galan a chwedl Guto Nyth Brân.”

Dywedodd Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant Cyngor Rhondda Cynon Tâf, Ann Crimmings fod y cyngor “wrth ein bodd” o gael croesawu rheolwr Cymru i’r dref.

“Mae poblogrwydd ein digwyddiad yn tyfu bob blwyddyn, gyda mwy o gyfranogwyr a chefnogwyr nag erioed o’r blaen yn dod i’n Bwrdeistref Sirol ar gyfer y rasys.”

Ychwanegodd fod yr holl lefydd ar gyfer y ras wedi cael eu llenwi rai wythnosau’n ôl.

“Bydd ymddangosiad y fath eicon chwaraeon â Chris Coleman yn ddiau yn hwb i boblogrwydd ein digwyddiad ymhellach gan ei fod e wedi penderfynu dod â blwyddyn gofiadwy iddo fe a thîm Cymru i ben ar strydoedd Aberpennar.”

Dyma’r anrhydedd ddiweddaraf i Chris Coleman, sydd wedi cael Rhyddid Dinas Abertawe, enwebiad ar gyfer Hyfforddwr y Flwyddyn gan FIFA (i’w gyhoeddi yn 2017), cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru a’r OBE yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines.