Syr Bradley Wiggins (llun: PA)
Mae’r beiciwr Syr Bradley Wiggins wedi cyhoeddi ei fod am ymddeol, ar ôl gyrfa ddisglair ar y trac rasio ac ar y ffordd.

Mae’r dyn 36 oed yn enillydd wyth o fedalau Olympaidd yn ogystal â bod y beiciwr cyntaf o Brydain i gipio teitl pencampwriaeth y Tour de France.

Enillodd ei bumed medal aur Olympaidd yn Rio yr haf yma mewn cystadleuaeth tîm, gan ychwanegu at ei gasgliad sydd hefyd yn cynnwys un arian a dwy efydd.

Mae wedi cystadlu mewn pump o Gemau Olympaidd ers Sydney yn 2000, ac uchafbwynt ei yrfa oedd ennill y Tour de France a chystadleuaeth treial amser yng Nghemau Olympaidd Llundain yn 2012.