Triawd merched Cymru (Llun o gyfrif Trydar Anwen Butten)
Mae un o dimau bowlio Cymru wedi ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Bowls y Byd yn Seland Newydd.

Mae triawd y merched newydd ddod yn ail i Awstralia yn y rownd derfynol, a hynny o 17-6.

Er mwyn cyrraedd y ffeinal, fe gurodd Gymru dimau Lloegr (16-12) a Malaysia (18-16).

Tim Cymru ydi Anwen Butten, Emma Woodcock a Kathy Pearce.