Rebecca Evans AC
Mae bwrdd rheoli Chwaraeon Cymru wedi cael ei ddiarddel am y tro yn dilyn penderfyniad sydd wedi cael ei wneud ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Ychydig iawn o fanylion sydd wedi cael eu datgelu hyd yn hyn, ond yn ôl y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Iechyd, Rebecca Evans, mae rhai materion wedi codi “dros y dyddiau diwethaf”.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn trafodaethau â’r cadeirydd newydd Paul Thomas a’r is-gadeirydd Adele Baumgardt. Daeth arolwg o’r sefydliad i ben yn ddiweddar.

Dim ond ers mis Mawrth y bu Paul Thomas yn ei rôl, yn olynydd i Laura McAllister.

Yn ogystal ag ymgynghori Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â chwaraeon yng Nghymru, mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gyfrifol am weinyddu arian y Loteri.

Penderfyniad anghenrheidiol 

Dywedodd Rebecca Evans mewn datganiad fod y penderfyniad yn un “angenrheidiol”, a bod ymchwiliad ar y gweill ac y byddai’n rhoi mwy o wybodaeth maes o law

Mae disgwyl i’r gwaharddiad ar waith y bwrdd fod mewn grym tan o leia’ ddiwedd y flwyddyn.

Ond fe fydd Chwaraeon Cymru’n parhau â’i waith o ddydd i ddydd yn y cyfamser. Dyw Chwaraeon Cymru ddim wedi gwneud sylw.