Mae Albanwyr blaenllaw wedi llongyfarch y chwaraewr tenis Andy Murray ar ôl iddo gyrraedd rhif un ar restr detholion y byd am y tro cyntaf erioed.

Doedd ond angen i Murray, 29, gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Meistri Paribas ym Mharis er mwyn cyrraedd y brig, gan ddisodli Novak Djokovic.

Fe fu’n rhaid i’w wrthwynebydd Milos Raonic dynnu’n ôl cyn eu gêm gyn-derfynol oherwydd anaf, gan sicrhau lle Murray yn y llyfrau hanes.

Dywedodd Murray fod ei lwybr i’r brig wedi bod “ychydig yn rhyfedd” ac yn “anffodus” i Raonic.

“Mae cyrraedd fan hyn yn golygu 12 mis o gystadlaethau. Y misoedd diwethaf yw’r rhai gorau yn fy ngyrfa a dw i’n falch iawn o gael yr eiliad hon.”

Enillodd Murray gystadleuaeth Wimbledon yn gynharach eleni, ac fe gadwodd ei afael ar ei deitl Olympaidd yn Rio.

Fe fydd Murray yn wynebu’r Americanwr John Isner yn y rownd derfynol ddydd Sul (2 o’r gloch), sef deuddegfed gêm derfynol ei yrfa.

Murray yw’r chwaraewr cyntaf erioed o wledydd Prydain i gyrraedd rhif un yn y byd.

Ond nid Andy yw’r Murray cyntaf i gyrraedd y brig – fe gyrhaeddodd ei frawd Jamie safle rhif un y dyblau ddechrau’r flwyddyn.

Yn ôl y seiclwr Olympaidd Syr Chris Hoy ar Twitter, Murray yw’r “pencampwr gorau erioed” yn hanes yr Alban.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban fod llwyddiant Murray yn “gamp anhygoel”.