Becky James, chwaer Rachel James (Llun: Chwaraeon Cymru)
Mae Rachel James, chwaer hynaf y seiclwraig Becky James o’r Fenni, wedi cael ei dewis i fod yn rhan o dîm Prydain ar gyfer pencampwriaeth rasio trac Ewropeaidd ym Mharis sy’n dechrau yfory.

Dywedodd Rachel James, 28 oed, mai ei chwaer iau wnaeth ei hysbrydoli i ymgymryd â seiclo ar lefel broffesiynol yn y lle cyntaf.

Yn y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro eleni, fe gipiodd Becky James ddwy fedal arian.

Mae’r ddwy chwaer hefyd yn gobeithio cystadlu gyda’i gilydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.

Dywed Rachel James fod dod at seiclo yn hwyrach na’r arfer wedi cynnig golwg newydd iddi ar y gamp, “mae dod at seiclo nawr yn gwneud ichi sylweddoli cyfle mor fawr yw e i reidio beic fel ffordd o fyw a gwneud rhywbeth chi’n caru.”