Non Stanford - pedwerydd yn Rio
Mi fethodd y Gymraes, Non Stanford, ag ennill medal yn y triathlon yng Nghemau Olympaidd Rio neithiwr – a hynny oherwydd iddi ddod yn bedwerydd yn y ras, y tu ol i’w ffrind gorau, Vicky Holland.

Gwen Jorgensen o’r Unol Daleithiau gipiodd yr aur, tra bod Nicola Spirig o’r Swisdir yn ail yn cael y fedal arian.

Fe lwyddodd y Gymraes arall yn y ras, Helen Jenkins, i groesi’r llinell yn y 19eg safle.