Mi fethodd y beiciwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, ag ennill yr un fedal yn y ras yn erbyn y cloc yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro heddiw.

Er iddo osod amser cyflym o 1 awr, 14 munud a 52 eiliad ar ddechrau’r treialon, fe ddaeth Jonathan Castroviejo o Sbaen o fewn dim a chwalu’r amser hwnnw, gan osod targed newydd i bawb ei dorri, o 1 awr, 13 munud 21 eiliad.

Fabian Cancellara o’r Swisdir enillodd y fedal aur yn y diwedd, gyda Tom Dumoulin yn cipio’r fedal aur, a Chris Frome o dim Prydain yn y trydydd safle yn cael medal efydd.

Roedd Geraint Thomas wedi brifo ar ôl cwympo oddi ar ei feic yn y ras ffordd ddydd Sul, a gwobr gysur oedd ennill yr hawl i fynd am fedal heddiw yn erbyn y cloc.