Jazz Carlin wedi bod yn awyddus i gyrraedd Rio yn dilyn ei siom o golli allan yn Llundain yn 2012
Mae’r nofwraig Jazz Carlin wedi dweud ei bod hi “wrth ei bodd” ar ôl cymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Rio de Janeiro eleni.

Enillodd Carlin, sy’n enedigol o Swindon ond sy’n byw yn Abertawe, dair gwobr Brydeinig yr wythnos hon, a chymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd wrth orffen ras 400 metr yn Glasgow mewn pedair munud a 4.33 eiliad.

Roedd hi eisoes wedi ennill rasys 200 metr ac 800 metr cyn hynny yn Tollcross.

Doedd Carlin, 25, ddim yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012 oherwydd salwch.

Ar ddiwedd y ras, dywedodd hi: “Ro’n i’n ceisio ymlacio a mwynhau’r ras, mwynhau’r awyrgylch, mwynhau’r treialon Olympaidd, ond ro’n i dan straen ddechrau’r wythnos gyda’r holl densiwn ac ro’n i wedi pwdu gyda phawb o ‘nghwmpas i.”

Ychwanegodd hi na allai hi “fod yn hapusach” yn dilyn ei llwyddiant.

“Mae yna ddywediad bod methiant yn eich gwthio chi ymlaen i lwyddo a dw i wedi defnyddio hynny, yr holl iselfannau, i ‘nghodi i i le’r ydw i nawr.

“Mae’r wythnos hon wedi bod yn anodd. Rwy wedi rhoi cryn bwysau arna i’n hunan, felly mae’n teimlo fel pe bai pwysau mawr wedi cael eu codi oddi ar fy ysgwyddau.”