Dau Gymro sydd yn y gystadleuaeth o hyd yn dilyn siom i Day
Mae’r Cymro Ryan Day allan o Bencampwriaeth Snwcer Agored China, ar ôl iddo golli o bum ffrâm i dair yn erbyn y Sais Ricky Walden yn yr ail rownd.

Dechreuodd Day yr ornest yn gadarn, gan daro 53 yn y ffrâm gyntaf ac roedden nhw’n gyfartal 2-2 pan sgoriodd y Cymro 101 i fynd ar y blaen o dair ffrâm i ddwy.

Ond tarodd Walden yn ôl i ennill tair ffrâm o’r bron i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Dau Gymro sy’n dal i fod yn y gystadleuaeth, wrth i Dominic Dale herio Darryl Hill o Ynys Manaw, ac fe fydd Lee Walker yn mynd ben-ben â’r Sais David Gilbert.

Aeth Dale drwodd i’r ail rownd wedi iddo drechu’r Cymro Jamie Jones o 5-1 yn y rownd gyntaf.

Collodd Jamie Jones o 5-1 yn erbyn Jack Lisowski yn y rownd gyntaf.