Rhai o aelodau tîm pêl-rwyd Machynlleth orffennodd yn ail yn y gynghrair eleni
Enw: Clwb Pêl-rwyd Machynlleth

Ffurfiwyd: 1980au

Gemau: Nos Iau yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth

Lliwiau: Piws a Du

Pêl-rwyd sy’n mynd â’n sylw ni’r wythnos hon wrth i Dîm yr Wythnos droedio ein ffordd i fyny i Fachynlleth – ac fe gewch chi hanes nid yn unig y clwb, ond y gynghrair!

Clwb Pêl-rwyd Machynlleth sy’n gyfrifol am drefnu Cynghrair Bêl-rwyd Machynlleth, a thymor yma mae 10 o dimau, y nifer fwyaf erioed, wedi ymuno â’r gynghrair.

Yn ogystal â dau dîm o Fachynlleth, mae dau dîm o Ysgol Bro Hyddgen, dau dîm o Brifysgol Aberystwyth, tîm o Ddolgellau, tîm o Ddinas Mawddwy, tîm Y Geltaidd, a thîm Penglais hefyd yn cystadlu.

‘Ymlaen at y nesaf!’

Daeth Cynghrair y Gaeaf i ben yr wythnos diwethaf, gyda thîm Dinas Mawddwy yn fuddugol, a bydd Cynghrair yr Haf yn dechrau ym mis Ebrill.

Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn mae dau dîm gan glwb Machynlleth sef Y Gweilch a’r Dreigiau, gydag oedrannau’r chwaraewyr yn amrywio o 19 mlwydd oed hyd at 62.

“Mae hi wedi bod yn gynghrair anodd eleni gyda sawl tîm da iawn yn cystadlu,” meddai Lowri Davies, capten Dreigiau Machynlleth.

“Mae nifer o aelodau newydd yn ein tîm ni eleni, felly mae’n cymryd amser i gymysgu fel tîm.

“Mae’r timau wedi newid dipyn yn y flwyddyn ddiwethaf, rhwng rhai’n symud i ffwrdd i weithio, anafiadau ac un yn cael babi.

“Ond braf ydi gweld mwy o aelodau brwd yn ymuno efo ni. Mae’r Gweilch wedi gwneud yn andros o dda yng Nghynghrair y Gaeaf, felly ymlaen a ni i Gynghrair yr Haf!”

Croeso i fwy


Tîm Dolgellau, a orffenodd yn drydydd yn y tabl
Clwb Pêl-rwyd Machynlleth sydd yn trefnu’r gynghrair, ac mae gemau yn cael eu cynnal ar nos Iau yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth rhwng 7:30yh a 9:00yh.

Mae croeso i glybiau newydd sydd â chwaraewyr dros 14 oed i ymuno hefyd, gyda mwy o wybodaeth i’w gael drwy dudalen Facebook Clwb Pêl-rwyd Machynlleth Netball Club.

Yn y cyfamser, gyda Machynlleth heb ennill y gynghrair ers 2008, y gobaith mawr i’r tîm felly yw y gall hynny newid yn fuan.

Canlyniadau Cynghrair y Gaeaf

Mach Gweilch (E=Ennill, C=Colli)

E              46-14      Mach Dreigiau

E              23-10     Ysgol Bro Hyddgen 1

E              42-11     Ysgol Bro Hyddgen 2

E              29-12     Y Geltaidd

E              25-16     Prifysgol Aber 1

E              27-19     Prifysgol Aber 2

C             20-35     Dinas Mawddwy

C             29-37     Penglais

E              30-15     Dolgellau

Mach Dreigiau

C             14-46     Mach Gweilch

C             11-18     Ysgol Bro Hyddgen 1

E              38-7       Ysgol Bro Hyddgen 2

E              30-23     Y Geltaidd

C             13-24     Prifysgol Aber 1

E              27-23     Prifysgol Aber 2

C             12-50     Dinas Mawddwy

C             28-38     Penglais

C             13-28     Dolgellau
Tîm pêl-rwyd Dinas Mawddwy, enillwyr y gynghrair

Canlyniad Terfynol y Gynghrair

1af          Dinas Mawddwy (45 pwynt)

2il            Mach Gweilch (39 pwynt, +112 gwahaniaeth gôl)

3ydd      Dolgellau (39 pwynt, +83 gwahaniaeth gôl)

4ydd      Y Geltaidd (29 pwynt)

5ed        Penglais (24 pwynt)

6ed        Mach Dreigiau (21 pwynt)

7fed       Prifysgol Aber 1 (20 pwynt)

8fed       Ysgol Bro Hyddgen 1 (19 pwynt)

9fed       Prifysgol Aber 2 (13 pwynt)

10fed    Ysgol Bro Hyddgen 2 (5 pwynt)