Mae arolwg newydd yn datgelu bod nifer yr oedolion sy’n cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos yng Nghymru wedi cynyddu i 41% o’i gymharu a 39% yn 2013 a 29% yn 2008.

Mae Arolwg ar Oedolion Egnïol a ryddhawyd gan sefydliad Chwaraeon Cymru hefyd yn dangos bod 67% o’r rhai nad ydynt eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos yn hoffi gwneud mwy o chwaraeon – sef 1 miliwn yn rhagor o bobl yng Nghymru.

Gwirfoddolwyr

Ond er bod llai o bob yn gwirfoddoli gyda chwaraeon – o 10%  yn 2012 i 9% erbyn hyn – mae’r 235,000 o wirfoddolwyr yn parhau i roi 10 awr o’u hamser y mis, o gymharu ag 8 awr y mis yn 2012, sef cynnydd o 25%.

Cafodd 8,000 o bobl 15 oed ac uwch eu holi fel rhan o’r arolwg ac mae’r gweithgareddau chwaraeon mwyaf poblogaidd i oedolion yn cynnwys beicio, nofio a rhedeg.

‘Mwy o gyfleoedd i’r  1 miliwn’

Dywedodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos ein bod ni wedi llwyddo i gynnal y cynnydd anhygoel a welwyd yn nifer y gwirfoddolwyr a’r cyfranogwyr ar ôl Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Rydw i’n falch o hyn.

“Does dim rhaid i chi fod yn athletwr elitaidd i fod yn cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru. Y tad sy’n chwarae pêl droed ar nos Fercher, y teulu sy’n rhedeg gyda Parkrun ar fore Sadwrn a’r mamau sy’n cyfarfod i wneud cylchedau yn y parc cyn danfon neu nôl plant o’r ysgol – dyma athletwyr Cymru a nhw yw dyfodol chwaraeon cymunedol yng Nghymru.

“Maen nhw wedi dod o hyd i’r peth sy’n eu difyrru ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n creu mwy o gyfleoedd i’r 1 miliwn yma sydd eisiau gwneud mwy o chwaraeon ddod o hyd i’w ‘peth’ nhw.

“Os mai hynny yw darganfod gweithgareddau newydd, cyfarfod pobl newydd neu gyrraedd nodau personol, mae’n rhaid i ni eu denu nhw i fod yn egnïol. Dychmygwch yr effaith ar iechyd a lles ein cenedl ni pe baem ni’n llwyddo!”