Y diweddar John Disley (Llun: PA)
Bu farw’r athletwr o’r hen Sir Feirionnydd a aeth yn ei flaen i fod yn un o sylfaenwyr Marathon Llundain. Roedd John Ivor Disley yn 87 oed ac yn hanu o Gorris ger Machynlleth.

Fe wnaeth gryn enw iddo’i hun wrth gystadlu yn y ras 3000m ffos a pherth. Fe gynrychiolodd Brydain yng Ngemau Olympaidd 1952 yn Helsinki yn y gamp honno, gan ennill y fedal efydd.

Yn ystod ei yrfa, fe osododd sawl record, a fo oedd y cyflyma’ yng Nghymru dros hanner dwsin o wahanol bellterau. Fe gynrychiolodd Gymru ddwywaith yng Ngemau’r Gymanwlad, a hynny yn 154 a 1958.