Rhai o aelodau Clwb Rhedeg Pontardawe
Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn un ble byddwn ni’n clywed sawl un yn dweud eu bod wedi gwneud adduned i ‘ddechrau o’r newydd’ a cholli pwysau ar ôl yr holl fwyta a diogi dros y Nadolig.

Ble gwell i Golwg360 fynd felly nag at Dîm yr Wythnos sydd yn gallu dangos popeth i ni am eu gwahanol ffyrdd nhw o gadw’n heini drwy gydol y flwyddyn!

Dim ond yn 2014 y cafodd Clwb Rhedeg Pontardawe ei sefydlu, a hynny gan garfan fechan o redwyr cymdeithasol.

Ond mae’r clwb wedi tyfu’n gyflym ers hynny ac mae ganddi bellach dros hanner cant o aelodau, yn ogystal â bod wedi’i chysylltu’n ffurfiol gydag Athletau Cymru.

Pob gallu

Mae’r clwb yn cyfarfod pedair gwaith yr wythnos y tu allan i Ganolfan Hamdden Pontardawe, gyda sesiynau ar nos Fawrth dros dair neu bedair milltir neu ar gyfer pob gallu ar nos Iau.

Mae’r clwb hefyd yn cynnal sesiynau Cyflymdra a Chryfder ar nosweithiau Gwener yn y gwanwyn a’r haf, tra bod bore Sul hefyd yn gyfle i’r rhedwyr newydd a phrofiadol ymestyn eu coesau ar y penwythnos.

Yn ôl Meinir Hutchings, sydd yn un o’r aelodau blaenllaw, mae pob math o redwyr yn rhan o’r clwb, o bobl sydd eisiau rhedeg dim ond ychydig filltiroedd er mwyn cadw’n heini, i’r rheiny sydd yn cystadlu dros bellteroedd hir.

“Mae ystod eang gyda ni. Fe wnes i lwyddo i wneud hanner marathon ond roedd hwnna’n binacl i fi, bydda’i ddim yn gwneud hynny ‘to! Dw i jyst eisiau cadw’n ffit,” esboniodd Meinir Hutchings.

“Mae rhai dim ond eisiau gwneud dwy neu dair milltir, ac eraill eisiau gwneud deg milltir, felly ni’n pario pobl lan yn dibynnu faint maen nhw eisiau gwneud.”

Blwyddyn newydd


Ras Nadolig y clwb llynedd
Fis diwethaf fe gynhaliodd Clwb Rhedeg Pontardawe eu hail ras Nadolig, gyda dros 70 o blant ac oedolion mewn gwisg ffansi yn mynd ar daith o gwmpas y dref cyn gorffen gyda gwin cynnes a mins peis yn nhafarn y Gwachel.

Mae sawl un o aelodau’r clwb hefyd yn cymryd rhan yn y park runs poblogaidd ar foreau Sadwrn, sydd yn rasys 5km penodedig ble mae rhedwyr yn gallu cadw cofnod o’u hamseroedd o wythnos i wythnos.

Ac er gwaethaf y tywydd gwlyb a gwyntog ar ddechrau’r flwyddyn, mae ambell wyneb newydd eisoes wedi dangos diddordeb mewn gwireddu eu haddunedau blwyddyn newydd a gwisgo’u sgidiau rhedeg.

“Ni wedi cael cwpl o ymholiadau newydd yn barod,” meddai Meinir Hutchings.

“Roedd y tywydd yn ofnadwy dydd Sul ond fe gawson ni rhyw 20 yn dod mas, mae pawb eisiau mynd yn ffit eto yn y flwyddyn newydd.

“Ni’n glwb cyfeillgar, brwdfrydig a chefnogol i bawb beth bynnag yw’r nod, er mwyn i bawb gael mwynhau wrth wella.”

Am fwy o wybodaeth am y clwb ewch i wefan Clwb Rhedeg Pontardawe.