Mae’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Personoliaeth Chwaraeon BBC Cymru wedi cael ei chyhoeddi.

Ar y rhestr eleni mae enwau o’r byd rygbi, pêl-droed, paffio, seiclo, athletau, taekwondo a threiathlon.

Y rhestr fer yn llawn yw:

Gareth Bale – aelod blaenllaw o garfan bêl-droed Cymru sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc

Ashley Williams – capten Abertawe a gyrhaeddodd yr wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair yn 2014-15, ac o garfan Cymru sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc

Dan Biggar – Maswr y Gweilch a Chymru’n aelod blaenllaw o garfan rygbi Cymru yng Nghwpan y Byd, gan sgorio 56 o bwyntiau wrth i Gymru drechu Lloegr ar eu ffordd i rownd yr wyth olaf

Aled Siôn Davies – Dwy fedal aur yn y ddisgen a’r siot ym Mhencampwriaethau’r Byd yr IPC yn Doha

Jade Jones – Tair medal aur eleni, gan gynnwys dwy ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop

Lee Selby – 12fed pencampwr byd Cymru ym myd paffio wrth iddo ennill teitl pwysau plu

Non Stanford – yr athletwraig treiathlon wedi sicrhau ei lle yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Rio yn 2016

Geraint Thomas – wedi ennill ras Harelbeke yng Ngwlad Belg ac yn aelod o dîm Sky oedd wedi helpu Chris Froome i ennill y Tour de France

Pleidlais 

Y cyhoedd fydd yn dewis yr enillydd drwy bleidlais, ac enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni arbennig ym mhencadlys Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ar Ragfyr 7.

Bydd y bleidlais yn agor am 8 o’r gloch fore Llun, Tachwedd 30 ac yn cau am 6 o’r gloch nos Sadwrn, Rhagfyr 5.

Bydd panel o feirniaid hefyd yn dewis eu henillydd, a’r panel yn gyfuniad o Nigel Walker, y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Nathan Blake, Christian Malcolm a Non Evans.

Bydd 12 o wobrau eraill yn cael eu rhoi ar y noson gan gynnwys hyfforddwr y flwyddyn, tîm y flwyddyn, personoliaeth ifanc y flwyddyn, cyfraniad oes, arwr di-glod, hyfforddwr cymunedol, gwirfoddolwr ifanc, gwirfoddolwr, hyfforddwr anabledd a hyfforddwr ifanc.

Mae enillwyr y wobr arwr di-glod eisoes wedi cael ei gyhoeddi, sef Jane Roberts a Nerys Ellis am eu gwaith ym mhwll nofio Llanrwst.

Bydd y ddwy yn cynrychioli Cymru yng Ngwobrau Personoliaeth Chwaraeon y BBC yn Belfast ar Ragfyr 20.

Bydd rhaglen arbennig yn bwrw golwg ar uchafbwyntiau’r meysydd chwarae yng Nghymru yn cael ei darlledu ar BBC Cymru nos Wener, Rhagfyr 18 am 9 o’r gloch.