Elfyn Evans yn seithfed yn y bencampwriaeth
Y Ffrancwr a phencampwr ralio’r byd, Sebastien Ogier oedd yn fuddugol yn Rali Cymru GB ddydd Sul, a hynny am y drydedd flwyddyn o’r bron.

Roedd gan Ogier fantais o 26 eiliad dros Kris Meeke o Ogledd Iwerddon.

Gorffennodd y Cymro Elfyn Evans yn chweched yn y ras, ac yn seithfed yn y bencampwriaeth.

Dyma wythfed buddugoliaeth Ogier mewn ras ym Mhencampwriaeth Ralio’r Byd y tymor hwn.