Mae Aled Siôn Davies wedi amddiffyn ei deitl ar gyfer y siot yng nghategori F42 ym Mhencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Doha.

Torrodd Davies record y byd drwy daflu’r siot 14.95 metr i sicrhau’r fedal aur ar ddiwrnod cynta’r pencampwriaethau heddiw.

Daw llwyddiant y Cymro Cymraeg ddeng wythnos yn unig ar ôl cael llawdriniaeth wedi iddo dorri ei lengig.

Roedd Davies dan bwysau tua diwedd y gystadleuaeth wrth i Sajad Mohammadian o Iran daflu 14.54.

Ond aeth Davies ar y blaen gyda thafliad o 14.88 metr, cyn ymestyn ei fantais a gorffen gyda thafliad o 14.95 metr.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd: “Pencampwr y byd. Pwy fyddai wedi meddwl hynny 10 wythnos yn ôl. Diolch i bawb am eich cefnogaeth.”

Bydd Davies yn cystadlu yn y ddisgen ddydd Mercher nesaf.