Mae’r Cymro Jamie Donaldson yn cystadlu ym Meistri Prydain ddydd Iau, a’r gystadleuaeth ar ei newydd wedd yn dychwelyd i galendr Taith Ewrop am y tro cyntaf ers 2008.

Tarodd Donaldson, sydd ar drothwy ei ben-blwydd yn 40, ei ergyd gyntaf yn Woburn am 12.30, wrth iddo anelu i gadw ei le yn y 50 uchaf er mwyn cael cystadlu yn y prif gystadlaethau’r tymor nesaf.

Dychwelodd Donaldson, sy’n enedigol o Bontypridd, i’r 50 uchaf yn dilyn ei lwyddiant ym Mhencampwriaeth Agored Porsche yn yr Almaen yr wythnos diwethaf.

Roedd yn rhif 54 cyn i’r gystadleuaeth honno ddechrau.