Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi codi i’r pedwerydd safle yn nosbarthiad cyffredinol y Tour de France ar ôl i’r Americanwr Tejay van Garderen orfod tynnu allan o’r ras gyda salwch.

Roedd y beiciwr o dîm BMC wedi dechrau’r cymal heddiw, y cyntaf ym mynyddoedd yr Alpau, cyn gorfod ymddeol oherwydd anhwylder.

Yr Almaenwr Simon Geschke enillodd cymal 17 ar ôl dianc oddi wrth weddill y beicwyr gyda rhyw 28km i fynd, gydag Andrew Talansky yn ail a Rigoberto Uran yn drydydd.

Gorffennodd Chris Froome a Nairo Quintana gyda’i gilydd, gydag Alejandro Valverde a Vincenzo Nibali ychydig y tu ôl iddyn nhw, ond fe gollodd Alberto Contador dros ddwy funud o amser arnyn nhw tua’r diwedd ar ôl problem gyda’i deiar.

Mae’n golygu bod Froome bellach 3’10” o flaen Quintana a 4’09” o flaen Valverde, gyda Geraint Thomas yn codi uwchben van Garderen a Contador i’r pedwerydd safle, 6’34” y tu ôl i Froome.

Contador sydd yn bumed gyda Robert Gesink yn chweched, Nibali yn seithfed, Mathias Frank yn codi i’r wythfed safle, Bauke Mollema yn nawfed a Warren Barguil yn ddegfed.