Geraint Thomas
Mae Chris Froome wedi cryfhau ei afael ar y crys melyn ar ôl cipio buddugoliaeth gofiadwy yn y cymal mynyddig cyntaf ar y Tour de France eleni.

Gorffennodd prif feiciwr Team Sky y ras 59 eiliad o flaen Richie Porte o Sky oedd yn ail, a 1’05” o flaen Nairo Quintana o dîm Movistar ddaeth yn drydydd.

Roedd hi’n ddiwrnod rhagorol i Sky ar y cyfan, gyda Froome yn ymestyn ei fantais amser dros ei brif gystadleuwyr eraill a’r Cymro Geraint Thomas hefyd yn llwyddo i orffen yn chweched, 2’01” ar ei hôl hi.

Mae Quintana bellach 3’09” y tu ôl i Froome yn y Tour de France, gydag Alberto Contador 4’04” ar ei hôl hi yn y chweched safle, un safle ac un eiliad y tu ôl i Geraint Thomas.

Bydd buddugoliaeth Froome yn rhyddhad iddo diwrnod ar ôl iddo gael ei gyhuddo o dwyllo wrth gymryd cyffuriau gan hacwyr di-enw oedd wedi cael mynediad i ddata beiciwr Sky.