Lewis Hamilton
Phil Kynaston sydd yn edrych yn ôl ar benwythnos olaf F1 wrth i Lewis Hamilton gael ei goroni…

Yn y diwedd ni chafodd y frwydr am Bencampwriaeth F1 y Byd ei phenderfynu gan y ‘pwyntiau dwbl’ dadleuol, na chwaith hyd yn oed brwydr agos hyd y diwedd rhwng y ddau yrrwr oedd yn cystadlu amdani.

Lewis Hamilton gipiodd y fuddugoliaeth er mwyn ennill ail bencampwriaeth ei yrfa, a hynny ar ôl iddo synnu Nico Rosberg wrth neidio i flaen y ras bron yn syth wedi i’r golau gwyrdd oleuo.

Fe lwyddodd y Prydeiniwr i aros o flaen ei gyd-yrrwr Mercedes, a ddisgynnodd i lawr y rhestr yn hwyr yn y ras ar ôl problem fecanyddol i’w gar.

Phil Kynaston sydd yn edrych yn ôl ar benwythnos olaf F1 eleni yn Abu Dhabi.

Newidiadau ar y grid

Roedd Caterham yn ôl ar y grid ar gyfer Grand Prix Abu Dhabi, gyda’r Prydeiniwr Will Stevens yn cymryd lle Marcus Ericsson sydd wedi gadael y tîm.

Agos iawn yn ôl y sôn oedd Marussia i ail-hawlio eu lle, ond aflwyddiannus fuon nhw. Ym mhen arall y lon bit, fe gadarnhawyd mai i Ferrari y bydd Sebastian Vettel yn mynd yn 2015.

Erbyn diwedd y penwythnos roedd y cochion hefyd wedi cyhoeddi bod rheolwr y tîm, Marco Mattiaci, yn gadael ar ôl dim ond wyth mis yn y swydd.

Does dal dim newyddion gan McLaren, felly dim cadarnhad ynglŷn â dyfodol Fernando Alonso na Jenson Button.

Rosberg yn cipio’r blaen

Yn mynd i mewn i’r ras fyddai’n penderfynu ffawd y bencampwriaeth, gyda’r system pwyntiau dwbl, roedd rhaid i Lewis Hamilton orffen y ras yn ail er mwyn sicrhau ail bencampwriaeth ei yrfa.

Roedd o ar y ffordd i wneud hynny yn y rhagbrawf, er i gamgymeriad adael i Rosberg gymryd yr amser cyflymaf o’i flaen.

Dywedodd Rosberg y byddai’n talu am driniaeth sba i Valteri Bottas (a oedd yn drydydd) os allai’r gyrrwr Williams gael ei hun rhwng y ddau Fercedes yn y ras. Dw i’n siŵr y byddai Hamilton yn annog unrhyw un i osgoi ‘triniaeth Sba’ gan Rosberg!

Massa oedd yn bedwerydd ac roedd y Red Bulls yn bumed a chweched tan i’w hamseroedd gael eu dileu am ddefnyddio adenydd blaen newydd. Golygai hyn, a chosb Romain Grosjean am ddefnyddio uned bŵer newydd, bod gan Will Stevens yn y Caterham dri char yn cychwyn y tu ôl iddo!

Dechrau Hamilton

Wrth i olau’r dydd ddod i ben ar gyfer ras min nos F1, fe berfformiodd Hamilton ei ddechrau orau erioed, heb or-refio’r car a llwyddo i ddechrau o’r grid heb droelli’r olwynion o gwbl. Fe gipiodd blaen y ras heb roi unrhyw siawns i Rosberg.

Cafodd Nico Hulkenberg gosb pum eiliad am ddigwyddiad rhyngddo fo a Kevin Magnussen.

Doedd o ddim yn hapus i gymryd y bai, ac mae’n rhaid dweud fod cwestiynau yn codi ynglŷn â chrefft rasio Magnussen, ac yntau wedi cael dipyn o broblemau wrth frwydro eraill yn ei dymor cyntaf.

Erbyn lap 25, roedd Hamilton wedi agor bwlch da allan ac roedd hi’n mynd i wella iddo. Fe arafodd Rosberg gyda phroblem drydanol.

Ond y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd Canada, lle gafodd ddau gar yr un broblem, ac fe lwyddodd Rosberg i yrru o’i chwmpas hi bryd hynny er i Hamilton ymddeol. Gobaith i Rosberg?

Dwy lap yn ddiweddarach, hawdd oedd hi i Massa gymryd yr ail safle oddi wrth Rosberg.

Barbeciw Lotus

Tybed os mai Lotus oedd yn cynnal y barbeciw diwedd tymor? Fe dynnodd Maldonado i’r ochr ar lap 28 gyda fflamau ffyrnig yn dod o gefn ei gar.

Mae’n siŵr mae ei losgi byddai Lotus eisiau gwneud i’r Renault. Ar ôl tymor siomedig gyda’r uned pŵer Ffrengig sydd heb addasu’n dda i’r rheolau newydd, mae’r tîm o Enstone yn edrych ymlaen at gymryd unedau Mercedes ar gyfer 2015.

Rŵan roedd y ras wedi dod yn fyw. Roedd Button ac Alonso yn ymladd yn galed. Ar ôl nifer o gorneli, fe orfodwyd Button i wneud camgymeriad gan Alonso. Y Sbaenwr yn dangos pwy fydd ar y blaen flwyddyn nesaf?

Cyn i Hamilton bitio roedd Massa yn cau’r bwlch yn gyflym iawn. Fe arhosodd o allan am 12 lap arall cyn dod allan ar y teiars or-feddal cyflymach.

Gyda hanes y ddau yma ym mhencampwriaeth 2008, fyddai hi ddim wedi bod yn syndod pe bai Massa wedi mwynhau rhwystro Hamilton rhag coroni ei bencampwriaeth gyda buddugoliaeth.

Roedd Hamilton yn ceisio peidio gwthio’r car yn rhy galed rhag dioddef yr un broblem a’i gyd-yrrwr. Roedd Rosberg i lawr i bumed erbyn hyn.

Yn gwthio’n galed ar y teiars sydd wedi eu dylunio i beidio para’n hir, doedd Massa methu cael y bwlch yn is na tua thair eiliad.

Lewis yn fuddugol

Fe seliodd Hamilton Bencampwriaeth F1 y Byd 2014 wrth orffen yn gyntaf yn Grand Prix Abu Dhabi, gyda Massa’n ail a Bottas yn drydydd.

Yn anffodus, fe ddisgynnodd Rosberg i 14eg gyda’i broblemau erbyn y diwedd, gan olygu nad oedd y bwlch o 67 pwynt yn edrych yn agos o gwbl!

Bydd Bottas yn gobeithio gallu adeiladu ar dymor cryf flwyddyn nesaf ac yntau wedi neidio dros Alonso a Vettel i bedwerydd yn y tabl.

Ricciardo oedd yn bedwerydd yn y ras. Bydd yntau yn falch iawn hefyd ar ôl curo Vettel dros y tymor ac ennill y ‘Bencampwriaeth heb Mercedes!’

Pwysig nodi hefyd fod pwyntiau Button yn y ras hon (pumed) wedi cadw McLaren o flaen Force India (Hulkenberg a Perez yn chweched a seithfed) ym mhencampwriaeth y timau (tra bod Magnussen yn ddi-sgôr).

Cawn weld pwy fydd yn gyrru’r McLaren-Honda 2015 wrth ochr Alonso, ond mae Button yn sicr yn ei haeddu.

Parodrwydd Mercedes i adael i’w gyrwyr frwydro yw’r prif beth sydd wedi cadw brwydr pencampwriaeth eleni yn fyw.

A chydag ansicrwydd dros faint o ddatblygiad i’r unedau pŵer sydd wedi ei ganiatáu ar gyfer y gaeaf (heb anghofio bod Honda yn ymuno hefyd) y gobaith yw y bydd yr un fath yn wir yn 2015, er mwyn cael pencampwriaeth yr un mor gyffrous â 2014.