Lewis Hamilton
Lewis Hamilton oedd yn fuddugol ar drac Suzuka, Siapan ar benwythnos F1 lle cafodd cwestiynau eu codi am ddoethineb cynnal y ras dan fygythiad Teiffŵn.

Ond nid y tywydd oedd ar feddwl pobl wrth i bawb boeni am gyflwr Jules Bianchi, wedi damwain erchyll y Ffrancwr.

Rhybudd tywydd

Fe gynhaliwyd y rhagbrawf mewn tywydd braf ddydd Sadwrn, ond roedd rhybuddion clir fod ‘Teiffŵn Phanfone’ ar ei ffordd drannoeth.

Y Mercedes gymrodd y rhes flaen, Rosberg yn arwain Hamilton, gyda cheir Williams Valterri Bottas a Felipe Massa ar yr ail res.

Gyda’u ceir wedi eu gosod â llygad ar dywydd ddydd Sul, dim ond chweched a nawfed oedd Ricciardo a Vettel.

Fe gychwynnodd y ras tu ôl i’r car diogelwch oherwydd y glaw trwm, a doedd Marcus Ericsson methu dal ei gar yn yr amodau gwael hyd yn oed ar gyflymder isel, gan droelli i mewn i’r graen, cyn ailymuno â’r trac.

Fe stopiwyd y ras ar ôl dwy lap oherwydd bod y tywydd mor wael. Fe arweiniodd y car diogelwch y pac i mewn i’r lon bit yn hytrach nac yn ôl i’r grid. Y rhesymau am hyn oedd y byddai’n haws i gael y ceir yn ôl i’r garej tasai’r ras ddim yn ailgychwyn.

Hefyd, wedi dwy lap, mae posib gwobrwyo hanner pwyntiau os nad oes posib cwblhau’r ras – hynny yw, tasan nhw wedi stopio ar y grid ni fyddent wedi cwblhau’r ail lap, ond wrth eu stopio yn y pits roeddynt wedi croesi’r llinell i gychwyn y drydydd.

Rhoddodd y saib yma amser i lawer awgrymu y dylai’r ras fod wedi cael ei gynnal ynghynt yn y diwrnod, pan oedd y tywydd yn fwy ffafriol, neu ddydd Sadwrn, cyn y rhagbrawf – dau awgrym oedd wedi eu gwrthod yn bennaf gan hyrwyddwyr y ras, nid yr FIA.

Ailddechrau

Wedi 20 munud fe ailddechreuodd y ras, tu ôl i’r car diogelwch eto. Gydag amheuon fod dŵr wedi mynd i mewn i systemau’r car, fe dynnodd Alonso i’r ochr llai na lap ar ôl ailgychwyn gyda diffyg pŵer.

Fe arhosodd y car diogelwch allan am saith lap, gyda nifer o yrwyr yn siarad dros eu radio i drio rhoi neges i’r cyfarwyddwr fod hi’n bryd i’r ras ailgychwyn yn iawn.

Gan gefnogi’r farn yma, fe aeth Button yn syth i’r pits wrth i’r ras ailgychwyn i newid ei deiars tywydd gwlyb am rhai canolig. Os doedd y tywydd ddim digon drwg ar gyfer y teiars mwyaf eithafol, ‘swn i’n tybio bod y car diogelwch wedi aros allan yn rhy hir.

Gan ddangos fod ei benderfyniad yn gywir, ymhen ychydig roedd nifer o yrwyr yn y pits i newid eu teiars, gyda Button i fyny i drydydd erbyn lap 14.

Un o wendidau’r Williams eleni ydi perfformiad mewn tywydd gwlyb. Roedd hyn yn cael ei wireddu wrth i’r ddau Red Bull (gyda’u ceir wedi eu hoptimeiddio ar gyfer glaw) basio’r ddau Williams.

Fel sydd wedi digwydd droeon yn 2014, roedd brwydr yn agosáu rhwng y ddau Mercedes. Ar ôl nifer o geisiadau ac un trip oddi ar y trac, ar lap 29 fe basiodd Hamilton Rosberg mewn symudiad gwych o amgylch y tu allan i’r tro cyntaf, sef lleoliad y ddamwain enwog ar y lap gyntaf rhwng Prost a Senna yn 1990. Ymhen dim, roedd gan Hamilton fwlch da.

Cafodd gwaith da McLaren a Button ei ddadwneud mewn pitstop araf ar lap 31, wrth iddynt orfod newid y llyw, gyda’r Prydeiniwr yn disgyn tu ôl i’r ddau Red Bull.

Damwain Bianchi

Lap 43 ac roedd hi wedi dechrau glawio’n drwm eto. Gyda’i deiars yn methu clirio’r dŵr, fe ‘aqua-planiodd’ Adrian Sutil oddi ar y trac i mewn i’r rhwystrau. Fe gamodd allan o’i gar yn ddidrafferth.

Yn fuan wedyn fe ddaeth y car diogelwch allan ac wedyn cafodd y fflag goch ei chwifio. Yr awgrym cyntaf oedd bod hyn oherwydd y tywydd neu ddamwain Adrian Sutil.

Ond heb i’r camerâu weld, roedd Jules Bianchi wedi cael digwyddiad tebyg iawn i un Sutil ac wedi taro’r peiriant a oedd yn clirio car Sutil. Ni chafodd y ras ei ailddechrau.

Fe ddaeth yn amlwg yn sydyn bod hyn yn ddifrifol a chafodd Bianchi’i gludo i’r ysbyty lle cafodd lawdriniaeth yn dilyn anaf difrifol i’w ben.

Roedd buddugoliaeth Hamilton dros Rosberg yn ymestyn ei fantais yn y bencampwriaeth i ddeg pwynt. Pan mae ras yn cael ei stopio’n gynnar, maent yn defnyddio trefn y lap cyn y fflag goch fel y canlyniad.

Roedd Vettel felly yn drydydd o flaen Ricciardo, gan ei fod wedi pitio ar ddiwedd y ras, a byddai Hulkenberg yn cymryd wythfed er bod ei gar wedi stopio ar ochr y ffordd.

Mae’r digwyddiad yma wedi gwneud i lawer ailystyried y penderfyniadau gafodd eu cymryd ynglŷn ag amser cychwyn y ras.

Doedd dim dathlu’r canlyniad yma, gyda meddyliau pawb gyda Bianchi. Ar hyn o bryd, mae cyflwr y gyrrwr yn ddifrifol ond sefydlog.

Bydd y ras nesaf yn cael ei gynnal ar gwrs newydd o gwmpas y Parc Olympaidd Sochi, Rwsia. Gobeithiaf yn arw bydd newyddion positif erbyn hynny.