Fred Evans
Mae bocsiwr Cymru Fred Evans wedi cael ei atal rhag cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yng Nglasgow ar ôl i’r corff sydd yn rheoli’r gystadleuaeth wrthod rhoi trwydded iddo.

Yn ôl Chwaraeon Cymru fe wrthododd Glasgow 2014 roi trwydded cystadlu iddo ar ôl archwiliadau gan y Swyddfa Gartref, er nad ydyn nhw wedi manylu ar y rheswm pam.

Roedd Fred Evans yn un o obeithion pennaf Cymru ar gyfer medal ar ôl iddo gipio medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Llundain ddwy flynedd yn ôl.

Mewn datganiad fe ddywedodd chef de mission tîm Cymru, Brian Davies, eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gael Fred Evans i gystadlu.

“Gall Tîm Cymru gadarnhau y gwrthodwyd trwydded y bocsiwr Fred Evans gan Glasgow 2014 ar ôl archwiliadau gan y Swyddfa Gartref a Bwrdd Penderfyniadau Trwydded Gemau’r Gymanwlad,” meddai’r datganiad.

“Yn anffodus, mae hyn yn golygu nad yw’n medru cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad.

“Rydym wedi bod yn trafod yn drylwyr gyda’r cyrff perthnasol dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys cyflwyno dau gynllun lliniarol, ond yn anffodus maen nhw i gyd wedi bod yn aflwyddiannus.”

Dywedodd tîm Cymru eu bod yn “siomedig tu hwnt” â’r penderfyniad, gan ddisgrifio Fred Evans fel bocsiwr o fri a dymuno’n dda iddo yn y dyfodol.