Mae rhai yn dweud bod strydoedd cul Monaco yn un o’r Grand Prix mwyaf diflas ar y calendr. Ond i mi, y strydoedd cul sydd yn gwneud y ras yma yn unigryw ac yn gyffrous.

Ac roedd hi’n benwythnos cyffrous ar frig Pencampwriaeth F1 y Byd hefyd, wrth i Nico Rosberg ddod i’r brig o flaen ei gyd-yrrwr Mercedes, Lewis Hamilton.

Ond doedd Hamilton ddim yn hapus o gwbl am ganlyniad y rhagbrawf, pan gipiodd Rosberg y safle cyntaf ar ôl gosod yr amser cyflymaf cyn cael damwain ac felly amddifadu Hamilton rhag cael y cyfle i guro’i amser.

Rhagbrawf

Mae’r timau o hyd yn ceisio gwneud yn siŵr yn ystod y rhagbrawf fod eu gyrrwr mewn bwlch ar y trac, fel nad ydi o’n cael traffig yn ei ffordd wrth geisio gosod amser.

Does dim amser o’r flwyddyn lle mae hyn yn anoddach nag yn ystod Q1 yn Monaco, gyda phob car ar y trac.

Gan ddarparu cyffro cyntaf y sesiwn, fe yrrodd Marcus Ericsson ei hun a Massa i mewn i’r rhwystrau wrth i’r Caterham daro yn erbyn y Williams, er gwaetha’r ffaith bod Massa wedi gadael digon o le.

Felly, er bod Massa yn yr 16 cyflymaf, doedd methu cymryd rhan yn Q2, sydd yn dechrau ar y 16eg safle.

Ond roedd y cyffro mwyaf i ddod ar y diwedd – Rosberg a Hamilton ar eu lapiau olaf gyda’r Almaenwr ar pole ar y pryd.

Fe fethodd Rosberg ei bwynt brecio i gornel Mirabaeu a gyrru’r car i fyny un o’r ychydig ffyrdd dianc ar y trac.

Gan fod y ffordd ddianc hefyd yn gul, fe geisiodd facio nôl. Fe ddaeth hyn a’r fflag felen allan (gan orfodi gyrwyr i arafu), felly’n rhwystro Hamilton rhag gosod ei amser cyflymaf.

Yn debyg i ‘ddamwain’ Schumacher yn 2006, cafodd Rosberg ei gyhuddo o wneud hyn yn fwriadol.

Ar ôl trafodaeth gyda’r stiwardiaid, daethpwyd i’r penderfyniad nad oedd Rosberg wedi gweithredu’n fwriadol. Doedd Hamilton ddim yn hapus am hyn! Mae pethau’n poethi rhwng y ddau. A oes adlewyrchiadau o berthynas Senna a Prost o’r 80au?

Y ras

Ar ôl cychwyn yn drydydd, fe gafodd Ricciardo ei guro ar y ffordd i gornel gyntaf St Devote.

Gyda’r ras yn llai na lap oed, daeth cyfnod car diogelwch cyntaf y ras wrth i Button a’i gyn gyd-yrrwr Perez frwydro, â’r Mecsicanwr yn taro’r wal ger yr enwog Mirabeau.

Ar ôl i yntau hefyd basio Ricciardo, daeth ras Vettel i ben ar lap pedwar gyda phroblem pŵer.

Gan wrthbrofi bod goddiweddu’n amhosib yn Monte Carlo, rhoddodd Adrian Sutil symudiad grymus ar Grosjean ar lap 12. Ond roedd yr Almaenwr yn amlwg yn trio’n rhy galed, wrth i’w ras ddod i ben wrth iddo golli rheolaeth y car ar lap 25.

Gwelwyd strategaethau diddorol ar waith oherwydd yr ail gyfnod car diogelwch. Ni wellodd hwyliau Hamilton pan gafodd ei glywed yn cwyno i’w dîm, gan ofyn pam nad oedden nhw wedi rhagweld y car diogelwch ac wedi ei bitio lap ynghynt. Fel oedd hi, aeth Rosberg yr arweinydd i mewn yn gyntaf.

Roedd Kimi Raikkonen wedi bod yn cael ei ras orau o’r tymor yn drydydd,  ond cafodd ei waith da ei ddadwneud wrth iddo orfod pitio yn hwyr yng nghyfnod y car diogelwch a disgyn i’r cefn. Ar ôl colli’r safle ar y cychwyn, roedd Ricciardo rŵan yn ôl yn drydydd.

Mewn digwyddiad rhyfedd iawn, fe gafodd cyffro ychwanegol ei ychwanegu i’r ras wrth i Hamilton orfod arafu gan iddo gael llwch yn ei lygad. Adroddodd dros y radio nad oedd yn gallu gweld drwy’i lygad chwith.

Roedd hyn yn golygu, tra bod Lewis yn gyrru’n unllygeidiog, roedd Ricciardo yn cau’r bwlch y tu ôl iddo. A fuasem ni’n cael ras heb y Mercedes yn gorffen 1-2?

Yn y diwedd fe fethodd y gŵr o Awstralia gymryd mantais o broblem Hamilton. Ond gyrrwr fydd yn hapus iawn o’i safle yw Jules Bianchi.

Ar ôl holl ymddeoliadau’r ras, fe orffennodd y Ffrancwr yn nawfed (ar ôl cymryd cosb pum eiliad am gychwyn yn y safle anghywir wedi i Maldonado gychwyn y ras o’r pits) i recordio pwyntiau cyntaf Marussia, yn eu pumed flwyddyn yn F1.

Mae’n parhau yn gyffrous ar frig y tabl, gyda buddugoliaeth Rosberg yn golygu ei fod  yn cipio buddugoliaeth yn ôl o’i elyn Hamilton o bedwar pwynt.

Gyda pherthynas y gyrwyr i’w weld yn chwalu, mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn hynod gyffrous gyda phethau mor agos rhwng y ddau Mercedes!