Bu’n rhaid gohirio Gŵyl Chwaraeon Cynradd yr Urdd, oedd i fod i’w chynnal yn Aberystwyth dros y Sul, oherwydd y tywydd.

Yn ôl datganiad gan y mudiad, roedd swyddogion wedi ymgynghori gyda’r awdurdodau a gan fod y rhagolygon mor wael penderfynwyd “nad oedd yn bosib i osod strwythurau a chynnal yr Ŵyl yn ddiogel.”

Bydd yr Ŵyl rwan yn cael ei chynnal ar benwythnos 14/15 Mehefin a bydd swyddogion yn cysylltu efo’r holl gystadleuwyr a phartneriaid y digwyddiad.

Mae rhagor o fanylion i gael trwy gysylltu efo’r Urdd ar 029 20 635688 neu e-bostio chwaraeon@urdd.org.