Mae trac rasio ceir newydd yn ne Cymru wedi cael sêl bendith cynllunwyr.

Gallai’r cynllun greu miloedd o swyddi ar y safle 830 erw ger Glyn Ebwy.

Dywed gwrthwynebwyr i’r cynllun bod yna beryglon amgylcheddol wrth godi’r trac.

Ond cafodd y cynllun ganiatâd cynllunio gan Gyngor Blaenau Gwent heddiw.

Bydd Cylched Cymru yn creu hyd at 3,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, a gallai’r nifer ddyblu ar ôl i’r trac gael ei agor.

Bydd y trac yn cael ei godi ar safle yn Rassau ger Glyn Ebwy, ac mae’n un o’r cynlluniau adeiladu drytaf yn hanes rasio ceir.

Bydd y safle hefyd yn cynnwys trac beiciau a pharc technoleg ar gyfer ymchwil, datblygiad, gwasanaethau cymorth, gwesty a siopau.

Y gobaith yw y gallai’r trac gynnal y MotoGP yn y dyfodol.

Dywedodd llefarydd: “Calon y safle 830 erw fydd cyfleuster rasio ceir o’r radd flaenaf, fydd yn derbyn tystysgrif i gynnal digwyddiadau rasio modur cenedlaethol a rhyngwladol, gyda thrac 3.5 milltir yn manteisio ar dopograffi unigryw Glyn Ebwy.”

Fe fydd academi yn cael ei agor hefyd i helpu i ddatblygu sgiliau gyrwyr y dyfodol.

Mae disgwyl i hyd at 750,000 o bobl ymweld â’r safle bob blwyddyn, ac fe allai gynhyrchu hyd at £50 miliwn ar gyfer economi’r DU.

Ond mae gwrthwynebwyr wedi dweud y gallai’r trac niweidio’r amgylchedd ger Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai graddfa’r trac yn “cael effaith amgylcheddol annerbyniol”.

Roedd yna bryderon hefyd am lefelau sŵn a thraffig yn yr ardal leol.