Agor y gampfa yn Abertawe
Cafodd gampfa ymladd gymysg, neu MMA, fwyaf Cymru ei hagor yn swyddogol ddydd Sul yn Nhrefforest, Abertawe.

Mae gan y gampfa Fit2Fight gyfleusterau ar gyfer 100 o bobol i ymarfer corff a rhoi cynnig ar ymladd MMA, sy’n cymryd elfennau o sawl gwahanol fath o ymladd megis bocsio, judo a reslo.

Mae’r gamp wedi denu nifer fawr o ddilynwyr newydd yn ddiweddar, ac roedd dau athletwr proffesiynol lleol, Brett Johns a Dino Gambatesa ar gael i roi arddangosfa ddydd Sul.

Roedd Kevin Green, o’r rhaglen ‘Secret Millionaire’, a’r actores Bollywood, Samira Mohamed Ali hefyd yn y gampfa  i agor y ganolfan, a rhoi cynnig ar y cyfleusterau sydd ar gael.

Mae’r gampfa yn un o gwmni Chris Rees, sydd hefo canolfannau ymladd dros Gymru a dros 1,000 o aelodau ynddynt.  Mae’r canolfannau yn rhoi gwersi ymladd a chyfleusterau i bobol gadw yn heini.

Dywedodd Kevin Green, sydd wedi sefydlu cwmni ei hun ac yn gweithio i ysbrydoli pobol ifanc i ddechrau busnesau newydd yng Nghymru: “Mae’n wych i weld busnesau bychain fel Academi Chris Rees yn ehangu ac yn cyd-fynd hefo’r twf mewn poblogrwydd MMA sy’n digwydd dros Ewrop.  Rydw i’n gefnogol iawn o’r gampfa newydd ac yn falch i fod yn un o brif noddwyr gwefan MMA newydd Cymru.”

Roedd agoriad y gampfa hefyd yn gyfle i lansio gwefan MMA Cymru, y wefan gyntaf i roi newyddion a gwybodaeth am ymladd cymysg yng Nghymru.  Bydd gan y wefan wybodaeth am ornestau, ymladdwyr a sut i roi cynnig ar y gamp.