Roger Federer yw’r chwaraewr tenis cyntaf erioed i gyrraedd brig rhestr cyfoethogion chwaraeon Forbes.

Mae ganddo fe ffortiwn o 106m o ddoleri (£86.2m), diolch yn bennaf i fuddsoddiadau gwerth £81m, sy’n sylweddol uwch na’r hyn mae e wedi’i ennill ar y cwrt tenis.

Y pêl-droediwr Cristiano Ronaldo sy’n ail y rhestr (£85m), a Lionel Messi yn drydydd (£84m).

Y pêl-droediwr Neymar sy’n bedwerydd, a’r chwaraewyr pêl-fasged LeBron James, Stephen Curry a Kevin Durant islaw’r chwaraewr o Frasil.

Y golffiwr Tiger Woods sy’n wythfed, gyda’r chwaraewyr pêl-droed Americanaidd Kirk Cousins a Carson Wentz yn cwblhau’r deg uchaf.

Y paffiwr Tyson Fury yw’r Prydeiniwr uchaf ar y rhestr, yn yr unfed safle ar ddeg, gydag enillion gwerth £46.2m.

Y ferch gyfoethocaf ar y rhestr yw’r chwaraewraig tenis Naomi Osaka o Japan, a hithau’n 29ain gyda chyfoeth o £30.7m.

Rhyngddyn nhw, roedd y 100 uchaf wedi ennill £2.95bn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf – 9% yn is na’r rhai ar y rhestr y llynedd.