Fe wnaeth y Cymro Dewi Griffiths dorri record yn ei farathon cyntaf erioed yn Frankfurt, gan orffen y ras mewn 2:09:49 – yr amser cyflymaf gan redwr o wledydd Prydain ers 2014.

Shura Kitata o Ethiopia enillodd y ras mewn 2:05:50, ond fe orffennodd y Cymro yn bumed i fynd yn ail ar restr detholion Cymru y tu ôl i Steve Jones.

Mae e bellach yn bymthegfed ar restr detholion Prydain, o flaen nifer o redwyr blaenllaw eraill, gan gynnwys ei gydwladwr Steve Brace.

Hyd yn hyn yn 2017, mae e wedi cofnodi ei amserau gorau erioed dros 3,000 metr, 5,000 metr, 10,000 metr a’r hanner marathon.