Fe fydd is-hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Shaun Edwards yn cydweithio â rhanbarth y Gleision ar agweddau amddiffynnol.
Bydd e’n gyfrifol am arwain sesiynau hyfforddi, ac yn mentora’r chwaraewyr.
Dywedodd prif hyfforddwr y rhanbarth, Danny Wilson y bydd y Sais yn “ychwanegiad gwych” ac y bydd e’n cael “effaith sylweddol”.
Ychwanegodd fod rhaid i amddiffyn y tîm wella os ydyn nhw am gystadlu yn Ewrop y tymor hwn.
Gyrfa
Ar ôl symud o fyd rygbi’r gynghrair, ymunodd Shaun Edwards â charfan Picwns Llundain, cyn ymuno â Chymru yn 2008.
Yn aelod o dîm cynorthwyol Warren Gatland, mae e wedi helpu Cymru i ennill dwy Gamp Lawn – a thair Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i gyd.
Dywedodd fod “llawer o botensial” yng ngharfan y Gleision.
Bydd e’n ymuno â Richard Hodges, hyfforddwr amddiffyn tîm dan 20 Cymru.