Wrecsam 1–1 Torquay 
                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Wrecsam groesawu Torquay i’r Cae Ras yng Nghynghrair Genedlaethol Lloegr brynhawn Sadwrn.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe roddodd George Harry’r tîm cartref ar y blaen o’r smotyn yn ail funud yr ail hanner yn dilyn trosedd Brendan Moore ar Izale McLeod.

Felly yr arhosodd hi tan ddeuddeg munud o’r diwedd pan unionodd Jamie Reid o ddeuddeg llath wedi trosedd ar Luke Young yn y cwrt cosbi.

Cafodd Iffy Allen gyfle hwyr i’w hennill hi i’r Dreigiau ond bu rhaid i’w dîm fodloni ar bwynt yn unig, pwynt sydd yn eu cadw’n ddegfed yn nhabl y Gyngrhair Genedlaethol.

.

Wrecsam

Tîm: Dunn, Smith (Barry 66’), Riley, Penn, Rutherford (Allen 83’), Carrington, Evans, Shenton, Harry (Massanka 66’), White, McLeod

Gôl: Harry [c.o.s.] 47’

Cardiau Melyn: Harry 21’. Evans 38’, Barry 69’, Massanka 90+6’)

.

Torquay

Tîm: Moore, Anderson, McGinty, Young, Lathrope (Reid 70’), Rowe-Turner, Gallifuoco, Sparkes, Verma, Harrad (Williams 62’), Keating (Lee 84’)

Gôl: Reid [c.o.s.] 78’

.

Torf: 3,328