Mae cyn-chwaraewr a chyn-brif hyfforddwr tîm criced Morgannwg, John Derrick yn yr ysbyty ar ôl cael strôc.

Roedd Derrick, 53, yn hyfforddwr y sir pan enillon nhw’r gynghrair undydd yn 2002 a 2004, ac fe enillon nhw ddyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth yn 2004 hefyd.

Ond fe gafodd ei ddiswyddo yn 2007.

Bellach, mae’n rheolwr perfformiad gyda Chriced Cymru, ac yn hyfforddi’r timau ieuenctid a’r merched.

Chwaraeodd Derrick mewn mwy na 200 o gemau i Forgannwg rhwng 1983 a 1991 fel chwaraewr amryddawn, ac mae’n cynrychioli tîm criced Aberdâr o hyd, ac yn gweithio fel pyndit i BBC Cymru.

Mae Clwb Criced Morgannwg a nifer o sylwebyddion wedi dymuno’n dda iddo ar wefannau cymdeithasol.

Mewn datganiad brynhawn dydd Iau, dywedodd ei deulu: “Ar ôl cael ei daro’n ddifrifol wael ddydd Mercher, mae John yn dangos rhai arwyddion ei fod yn gwella.

“Heddiw, mae e wedi llwyddo i gael rhywfaint o sgwrs, sydd yn galonogol iawn i ni.

“Mae ffordd hir i fynd gyda’i wellhad ond mae’r arwyddion cynnar yn bositif.

“Hoffai’r teulu ddiolch i bawb sydd wedi treulio amser yn dymuno’n dda i John. Rydym yn gwerthfawrogi ac yn croesawu hynny’n fawr.”