Matthew Morgan
Fe fydd y cefnwr Matthew Morgan yn gadael Bryste ar ddiwedd y tymor er mwyn ceisio cynyddu ei siawns o gael ei ddewis dros Gymru.

Y Gleision yw’r ffefrynnau ar gyfer ei lofnod ar hyn o bryd, ar ôl i’r chwaraewr 23 oed gadarnhau ei fod wedi gwneud y “penderfyniad anodd” i ddychwelyd i Gymru.

“Dw i’n torri fy mol eisiau chwarae dros fy ngwlad, a gadael Bryste yw’r cyfle gorau i mi wireddu’r nod hwnnw,” meddai Morgan, oedd yn rhan o garfan Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd eleni.

Fe awgrymodd cyfarwyddwr rygbi Bryste Andy Robinson fod Morgan, sydd hefyd yn gallu chwarae fel maswr, wedi cael awgrym gan dîm hyfforddi Cymru y byddai gwell siawns ganddo o wisgo’r crys coch os oedd yn chwarae dros un o’r rhanbarthau.

“Dw i jyst yn gobeithio bod y rheiny sydd yn rhoi cyngor i Matthew yn glynu at yr addewidion sydd wedi cael ei wneud iddo,” meddai Robinson.