Bydd Abertawe’n gobeithio adeiladu ar eu perfformiadau diweddar yn yr Uwch Gynghrair wrth iddyn nhw deithio i Anfield i herio Lerpwl ddydd Sul (4.15).

Tarodd yr Elyrch yn ôl i sicrhau gornest gyfartal 2-2 yn erbyn Bournemouth yn Stadiwm Liberty y penwythnos diwethaf wedi iddyn nhw fynd ar ei hôl hi o 2-0 yn yr ugain munud cyntaf.

Mae Lerpwl wedi curo Man City a Chelsea yn ystod yr wythnosau diwethaf, a dim ond unwaith mewn chwe gêm maen nhw wedi colli o dan y rheolwr newydd Jurgen Klopp.

Lerpwl sydd wedi ennill y pedair gêm diwethaf rhwng y ddau glwb yn yr Uwch Gynghrair, a thair ohonyn nhw yn Anfield.

Bydd sicrhau nad ydyn nhw’n ildio o symudiadau gosod yn flaenoriaeth i’r Elyrch, gan eu bod nhw wedi ildio 44% o’u goliau o giciau rhydd, o’r smotyn neu o’r gornel.

Dywedodd rheolwr Abertawe, Garry Monk: “Ry’n ni mewn cyfnod lle nad ydyn ni’n chwarae ar ein gorau ond ymddiried yn y broses yw’r peth pwysig a dyna fyddwn ni’n parhau i’w wneud a cheisio gwella.

“Ond byddwn ni’n dod allan a brwydro oherwydd dyna’n union y mae’r clwb wedi cael ei adeiladu arno.

“Mae’r chwaraewyr yn deall hynny, maen nhw’n gweithio’n galed dros ben i gywiro popeth a gallaf weld yr ymroddiad hwnnw.”

Ychwanegodd rheolwr Lerpwl, Jurgen Klopp: “Rhaid i ni amddiffyn yn dda ac os ydyn ni’n chwarae pêl-droed, gallwn ni ddod o hyd i wagle a bod yn beryglus iddyn nhw.

“Os yw pawb yn barod am frwydr fawr, bydd hi’n gêm dda.”