Caerdydd 2–2 Burnley                                                                      

Ildiodd Caerdydd ddwy gôl o fantais wrth i Burnley ddod yn ôl i gipio pwynt gyda dwy gôl hwyr yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Roedd hi’n ymddangos fel buddugoliaeth i’r Adar Gleision gydag ychydig funudau i fynd diolch i goliau Gunnarsson a Morrison ond sgoriodd Burnley ddwy waith yn y pum munud olaf.

Caerdydd oedd tîm gorau’r hanner cyntaf a pheniodd Aron Gunnarsson y tîm cartref yn haeddiannol ar y blaen o gic rydd Peter Wittingham toc cyn yr egwyl.

Chwaraeodd yr Adar Gleision yn dda yn yr ail hanner hefyd ac roeddynt ym mhellach ar y blaen pan beniodd Sean Morrison gic gornel Wittingham i gefn y rhwyd wedi ychydig dros awr o chwarae.

Tynnodd Rouwen Hennings un yn ôl bum munud o ddiwedd y naw deg a chipiodd Burnley bwynt yn yr amser a ganiateir am anafiadau pan wyrodd  Matthew Connolly y bêl i’w rwyd ei hun.

Byddai buddugoliaeth wedi codi Caerdydd i’r seithfed safle ond mae goliau hwyr Burnley yn golygu fod yr Adar Gleision yn llithro i’r degfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone, Gunnarsson (O’Keefe 67′), Ralls, Whittingham, Watt (Mason 62′), Jones (Macheda 89′)

Goliau: Gunnarsson 41’, Morrison 64’

Cerdyn Melyn: Wittingham 77’

.

Burnley

Tîm: Heaton, Darikwa, Duff, Keane, Mee, Boyd, Jones (Marney 67′), Barton, Arfield (Hennings 76′), Long (Taylor 56′), Gray

Goliau: Hennings 85’, Connolly [g.e.h.] 90’

.

Torf: 15,133