Dewi Alter
Dewi Alter sydd yn taro golwg ar dymor yr Elyrch hyd yn hyn, yn y cyntaf o’i flogiau am y tîm eleni i Golwg360

Gyfeillion, fy mhleser i yw blogio ar hanes dîm Abertawe eleni, a hynny ar ôl haf prysur i bawb.

Mae’r Elyrch wedi dechrau’r tymor yn dda iawn, gan gael pwynt yn erbyn Chelsea a churo Newcastle gan ddangos llawer o aeddfedrwydd. Rydyn ni wedi gweld chwaraewyr fel Andre Ayew a Jefferson Montero yn serennu, a Jonjo Shelvey yn gobeithio am gael ei ddewis i dîm Lloegr.

Ond doedd gêm y penwythnos diwethaf ddim mor gadarnhaol. Fe aeth y bois draw i ogledd ddwyrain Lloegr i herio Sunderland, ar ôl eu dechreuad kamikazïaidd nhw i’r tymor. Er na chafodd Abertawe’r canlyniad roedden nhw wedi dymuno amdano, does dim angen digalonni.

Mae’n wir, fe ddylai’r Elyrch fod wedi cael tri phwynt yn erbyn Sunderland, ac oni bai am ddwylo diogel Costel Pantilimon fe allan nhw’n hawdd fod wedi sgorio tair.

Ar bapur ac ar sail y perfformiad fe ddylen nhw fod wedi ennill. Dim ond dwy ergyd tuag at y gôl gafodd Sunderland o’i gymharu â naw gan fechgyn Garry Monk. Bu’r Elyrch yn anffodus, ond dyna yw natur pêl-droed.

Man United i ddod

Gyda pherfformiadau da gan Montero ac Ayew, fodd bynnag, mae gobaith y gall yr Elyrch wneud yn well y penwythnos yma.

Yng Nghwpan Capital One yr wythnos hon – cwpan sy’n llawn atgofion melys i’r cefnogwyr, wrth gwrs – dangosodd Abertawe bod dim ots pa dîm mae Garry Monk yn ei ddewis, fod y gallu ganddynt i ennill o hyd, gan guro Efrog o 3-0. Arwydd o dîm da.

Y tîm nesaf i’r Elyrch wynebu fydd Manchester United dydd Sul. Maen nhw’n dîm sydd heb golli tymor yma eto.

Serch hynny, dydi ‘clwb mwyaf y byd’ heb ymddangos yn rhy beryglus o flaen y gôl chwaith, gan sgorio ddwywaith yn unig yn y gynghrair hyd yn hyn.

Ond fe welon ni yng Nghynghrair y Pencampwyr bod y gallu gan chwaraewyr fel Memphis Depay a Wayne Rooney i sgorio ac ennill gemau ar ben eu hunain.

Mae pawb yn Abertawe’n gobeithio y bydd anlwc Man United o flaen y gôl yn parhau am wythnos arall, beth bynnag!